The Bill’s definition of terminal illness fails to recognise the risks from mistaken diagnosis or misinformation. Accurate prognostication is impossible.
The Mental Capacity Act (MCA 2005) was not designed to assess suicidality. A full psychosocial and mental health assessment should be required for a person who presents with suicidal ideation, whether they are terminally ill or not. This Bill’s proposals undermine the ‘The Suicide Prevention and Self-harm Delivery Plan for Wales 2025-2028’.
Patients will be eligible to access lethal drugs if they feel a burden or because of a lack of services. Coercion is often covert and difficult to detect, particularly when undue influence comes from family or from a person with authority.
The oversight within this Bill is inadequate. The panel does not need to see the patient. The MHRA does not need to regulate the drugs. The coroner does not need to review the death. There is no mechanism for independent scrutiny of the assisted dying service, for appeal against panel approval or redress for distressed family members.
Will the Senedd concur with UK Parliament providing patients the means to take their own lives when we know they will not get a hospice bed or meaningful counselling? In 2025, Senedd Cymru was strongly opposed to the ideology of the introduction of assisted dying in Wales.
The Bill contains sweeping Henry VIII powers, which have been extensively criticised by the Constitution Committee. These powers would allow the Secretary of State to make regulations directly impacting Wales and disrespects our devolved independence in healthcare.
We urge the Senedd to decline legislative consent connected to this deeply flawed Bill.
Yours sincerely,
Nid yw’r diffiniad o salwch terfynol yn cydnabod y risgiau sy’n deillio o ddiagnosis anghywir neu gam-wybodaeth. Mae’n amhosibl rhagweld gyda chywirdeb.
Ni chafodd y Deddf Galluedd Meddyliol (MCA 2005) ei chynllunio i asesu hunanladdoldeb. Dylid cynnal asesiad llawn o iechyd meddwl a chymdeithasol ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n mynegi syniadau hunanladdol, p’un a ydynt yn ddifrifol wael ai peidio. Mae’r bil yma yn tanseilio ‘Cynllun Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru 2025-2028’.
Bydd cleifion yn gymwys i gael cyffuriau gwenwynig o dan y Bil hwn oherwydd eu bod yn teimlo’n faich neu oherwydd diffyg gwasanaethau. Mae gorfodaeth yn aml yn gudd ac yn anodd ei chanfod, yn enwedig pan ddaw’r pwysau o’r teulu neu gan rywun â grym.
Mae’r oruchwyliaeth yn y Bil hwn yn annigonol. Nid oes angen i’r panel weld y claf. Nid oes angen i’r MHRA reoleiddio’r cyffuriau. Nid oes angen i’r crwner adolygu’r farwolaeth. Nid oes mecanwaith ar gyfer archwiliad annibynnol ar y gwasanaeth marwolaeth â chymorth, nac ar gyfer apelio yn erbyn cymeradwyaeth y panel neu iawndal i aelodau’r teulu sydd mewn trallod.
A fydd y Senedd yn cytuno â Senedd y DU i roi’r modd i gleifion ddod â’u bywyd i ben pan wyddom na fyddant yn cael gwely hosbis nac ymgynghoriad ystyrlon? Yn 2025, roedd Senedd Cymru yn gryf yn erbyn ideoleg cyflwyno marwolaeth â chymorth yng Nghymru.
Mae’r Bil yn cynnwys pwerau eang Henri VIII, a fu’n destun beirniadaeth helaeth gan y Pwyllgor Cyfansoddiad. Byddai’r pwerau hyn yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar Gymru ac yn anwybyddu ein hannibyniaeth ddatganoledig mewn gofal iechyd.
Rydym yn annog y Senedd i wrthod cydsyniad deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â’r Bil hynod ddiffygiol hwn.
Yn gywir,